
Rydym hefyd yn falch o gallu cynnig seremonïau ar gyfer mwy o gwesteion yn Swît Llandaf yn Llys Insole—plasdy cofrestredig Gradd II sydd wedi’i adnewyddu’n hyfryd ac sydd ym maestref deiliog Llandaf yng Nghaerdydd.
Wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf y tŷ hanesyddol yma, mae Ystafelloedd Llandaf yn cynnwys dwy ystafell godidog sy’n edrych dros lawntiau a gerddi tawel cefn y plasdy. Mae’r mynediad trwy’r prif grisiau carreg, gyda lifft ar gael i unrhyw westeion sydd ei angen.
Mae seremonïau Swyddfa Gofrestru ar gael yn Ystafelloedd Llandaf o ddydd Mawrth i ddydd Sul.

Ystafell y Cedrwydd
- Hyd at 22 o westeion
- Yn cynnwys lle tân hyfryd ac alcôf ffenestr swynol gyda golygfeydd dros y gerddi
Ystafell y Gneuen
- Hyd at 40 o westeion
- Eang, chwaethus ac wedi’i chyflwyno gyda lle tân cyfnod hardd
Ar Ôl Eich Seremoni
Ar ôl eich seremoni, byddwch yn gallu dychwelyd i lawr y grisiau a cael mynediad i gerddi prydferth Llys Insole er mwyn tynnu lluniau.
Mae pecynnau arlwyo hefyd ar gael yn uniongyrchol drwy Llys Insole, a bydd yn eich galluogi i barhau â’ch dathliad yn y lleoliad hudolus hon. Bydd manylion llawn ar gael unwaith y bydd dyddiad eich seremoni wedi’i gadarnhau.
Am rhagor o wybodaeth neu i ddechrau cynllunio eich diwrnod cofiadwy, cysylltwch â ni ar: seremoniau@caerdydd.gov.uk
Ffioedd
| 1 Ebrill i 31 Mawrth 2027* | ||||
| Ystafell | Nifer y gwesteion | Dydd Mawrth i Ddydd Gwener | Dydd Sadwrn / Dydd Sul | Gŵyl y Banc |
| Ystafell Cedar | 22 o westeion** | £345 | £395 | £450 |
| Ystafell Walnut | 40 o westeion** | £445 | £495 | £550 |
| *nid yw’r ffioedd a nodir yn cynnwys tystysgrifau priodas sydd yn £12.50 yr un
** uchafswm y gwesteion. Caniateir 1 ffotograffydd yn ogystal â’ch gwesteion |
||||




