Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn. Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r we/e-bost.

Swyddfa Gofrestru Caerdydd

Mae Gwasanaeth Cofrestru Caerdydd wedi’i leoli yn Archifdy Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd. Beth bynnag sydd gennych mewn golwg ar gyfer eich diwrnod arbennig, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiwallu eich dymuniadau.

Mae gennym ddewis o ystafelloedd seremoni ar gael ar gyfer dathlu priodasau a phartneriaethau sifil, seremonïau enwi neu adnewyddu addunedau.

 

Seremonïau Syml ac Agos-â-galon

I gyplau sy’n dymuno cyfnewid eu haddewidion cyfreithiol a’u modrwyau mewn seremoni fach a chynnes gyda dim ond dau dyst, mae’r Swyddfa Gofrestru yn Archifdy Morgannwg yn ddewis delfrydol.

  • Ar gael ar ddydd Llun
  • Ffi: £68.50 (yn cynnwys un dystysgrif)

 

Am rhagor o wybodaeth neu i ddechrau cynllunio eich diwrnod cofiadwy, cysylltwch â ni ar: seremoniau@caerdydd.gov.uk

Seremonïau Swyddfa Gofrestru yn Llys Insole – Swît Llandaf

Rydym hefyd yn falch o gallu cynnig seremonïau ar gyfer mwy o gwesteion yn Swît Llandaf yn Llys Insole

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© 2026 Swyddfa Gofrestru Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd