Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn. Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r we/e-bost.

Copïau o dystysgrifau

Gwneud cais am Gopïau o Dystysgrifau

Gallwch wneud cais am gopïau o dystysgrifau ar gyfer genedigaethau, priodasau a marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghaerdydd o 1837 ymlaen (y flwyddyn y dechreuodd y cofnodion swyddogol).

Mae cofnodion partneriaethau sifil ar gael o 2005 ymlaen.

Gwybodaeth Ofynnol

I brosesu eich cais, rhowch y manylion canlynol:

  • Y math o dystysgrif: genedigaeth, priodas, partneriaeth sifil, neu farwolaeth
  • Enw(au) llawn fel y’u cofnodwyd ar y dystysgrif
  • Dyddiad y digwyddiad
  • Lleoliad y digwyddiad
  • Enwau rhieni (ar gyfer tystysgrifau geni)
  • Unrhyw wybodaeth ychwanegol a allai ein helpu i ddod o hyd i’r cofnod

Nodwch: Dim ond os oes gyda ni’r cofnod cofrestr gwreiddiol y gallwn roi copïau o dystysgrifau. Os nad oes gennym y cofnod, bydd angen i chi gysylltu â’r swyddfa gofrestru sydd ag ef neu gallwch gysylltu â Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol sy’n cadw’r holl gofnodion ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae’r holl dystysgrifau mabwysiadu’n cael eu cadw gyda Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol

Sut i Wneud Cais

    Sylwer: Ni allwn gymryd taliad ar-lein, llenwch y ffurflen a byddwn yn eich ffonio i gymryd taliad drwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.

    Manylion yr enedigaeth

    Manylion rhiant

    ** Mae rhiant yn golygu partner benywaidd y fam a gaiff ei thrin fel rhiant i’r plentyn dan Deddf Embryoleg a Ffrwythloni Dynol 2008.

    Manylion y farwolaeth

    Manylion y briodas

    Manylion y bartneriaeth sifil

    Eich Manylion Cyswllt

    Eich Cyfeiriad

    Dosbarthu

    Gwasanaeth

    Gwasanaeth Arferol: Bydd copïau o dystysgrifau a archebwyd yn cael eu hanfon drwy bost ail ddosbarth cyn 15 diwrnod gwaith yn dilyn gwneud taliad £12.50 y dystysgrif yn llwyddiannus.

    Gwasanaeth Blaenoriaethol: Gellir archebu copïau o dystysgrifau o ddydd Llun i ddydd Gwener a byddant yn cael eu hanfon drwy bost dosbarth cyntaf y diwrnod gwaith nesaf yn dilyn taliad llwyddiannus o £38.50 y dystysgrif.

    Post

    Pris

    £38.50/div>

    Sylwer: Ni allwn gymryd taliad ar-lein. Byddwn yn eich ffonio i gymryd taliad gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.

    * Gwybodaeth ofynnol

    Dylech argraffu a llenwi’r ffurflen briodol:

    Cais am dystysgrif geni (41.7kb PDF)

    Cais am dystysgrif marwolaeth (39.7kb PDF)

    Cais am dystysgrif priodas (31.9kb PDF)

    Cais am dystysgrif partneriaeth sifil (180kb PDF)

     

    Cost tystysgrif yw £12.50 a bydd angen ichi gynnwys archeb bost yn daladwy i Gyngor Caerdydd gyda’ch cais.

    Anfonwch y cais at:

    Swyddfa Gofrestru

    Archifau Morgannwg
    Clos Parc Morgannwg
    Caerdydd
    CF11 8AW

    Byddwn yn dyroddi’r dystysgrif cyn pen 5 diwrnod gwaith.
    Nodwch nad ydym yn derbyn taliadau arian parod.

    Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

    © 2025 Swyddfa Gofrestru Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

    Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd